#

P-05-847 Ffynhonnau Dŵr Cyhoeddus
Y Pwyllgor Deisebau | 27 Tachwedd 2018
 Petitions Committee | 27 November 2018
 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-847

Teitl y ddeiseb: Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi yn Ne Cymru er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried creu ffynhonnau dŵr a'u rhoi yng nghanol dinasoedd a threfi yn Ne Cymru. Prif ddiben y cam gweithredu hwn fyddai roi diwedd ar wastraff plastig. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y poteli plastig untro yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac oherwydd y broses ailgylchu araf, mae'n llygru'r amgylchedd, gan niweidio bywyd y môr yn arbennig.

Mae llawer o bobl yn ceisio byw yn iach, gan gynnwys yfed o leiaf 2 litr o ddŵr bob dydd. Felly, mae poteli dŵr amldro wedi dod yn boblogaidd a defnyddiol iawn i helpu pobl i yfed digon o ddŵr drwy'r dydd. Byddai rhoi ffynnon ddŵr yng nghanol dinasoedd neu mewn rhannau eraill o ddinasoedd a threfi (canolfannau siopa, canolfannau chwaraeon, colegau, canolfannau diwylliannol ac ati) yn Ne Cymru yn helpu i sicrhau bod dŵr yfed ar gael trwy'r dydd. Byddai'r ffynhonnau dŵr hyn hefyd yn cyflenwi dŵr yfed i bobl ddigartref.
I gefnogi'r economi leol yng Nghymru, gellid defnyddio cwmnïau dŵr mwynol Cymru ar gyfer cyflenwi'r ffynhonnau dŵr.

Y cefndir

Mae adfywio ffynhonnau dŵr hanesyddol, gosod rhai newydd a chodi ymwybyddiaeth o ddŵr sydd ar gael i'r cyhoedd yn prysur ennill momentwm fel rhan o'r gwaith o leihau gwastraff plastig o'r sbwriel sy'n gysylltiedig â diodydd. 

Yn ôl gwaith ymchwili sbwriel sy'n gysylltiedig â diodydd a wnaed gan Cadwch Gymru'n Daclus yn 2015:

·         Mae 18 biliwn o boteli plastig yn cael eu defnyddio yn y DU bob blwyddyn; ac

·         Mae 38 miliwn o boteli plastig yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi bob dydd yn y DU.

Cyhoeddodd Keep Britain Tidy, mewn partneriaeth â BRITA, adroddiad ymchwil ym mis Ebrill 2017, sef Understanding provision, usage and perceptions of free drinking water to the public in the UK. Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn dangos: 

·         Bod gofyniad cyfreithiol i safleoedd trwyddedig ddarparu dŵr yfed am ddim i gwsmeriaid ar gais (ond gallant godi pris am ddefnyddio gwydr neu am y gwasanaeth o ddarparu'r dŵr) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban (nid oes deddfwriaeth o'r fath yng Ngogledd Iwerddon); ac 

·         Ar hyn o bryd, mae tri chynllun dŵr cymunedol sydd â'r amcan o ddarparu mwy o opsiynau dŵr yfed am ddim i'r cyhoedd gyda golwg ar leihau'r defnydd a wneir o boteli dŵr.  Yn y cynlluniau hyn, darperir dŵr am ddim yn bennaf gan fusnesau bwyd a/neu ddiod lleol, yn enwedig busnesau annibynnol bach.  Dyma'r cynlluniau dŵr cymunedol a nodwyd: 

o    ymgyrch Refill, a reolir gan yr elusen amgylcheddol City to Sea;

o    Tapwater.org; a

o    GiveMeTap! a'r ymgyrch gysylltiedig #MindTheTap

Cyhoeddodd Keep Britain Tidy adroddiad pellach ym mis Ebrill 2018, Water, Water, Everywhere: Moving from awareness to action on single-use plastic bottles (PDF 570KB). Un o brif ganfyddiadau'r adroddiad oedd bod:

·         tua wyth o bob 10 (78 y cant) o bobl yn credu y dylai fod mwy o ddŵr tap ar gael am ddim, er enghraifft mwy o ffynhonnau dwr ac adeiladau sy'n cynnig dŵr tap am ddim.

Gwnaed nifer o argymhellion yn yr adroddiad i annog mwy o bobl i ddefnyddio poteli dŵr y gellid eu hail-lenwi. Roedd y rhain yn cynnwys:

·         ystyried sut y gellir creu darpariaeth newydd a gwneud y ddarpariaeth bresennol yn fwy gweladwy drwy fwy o waith hyrwyddo. Mae cynlluniau fel Refill a GiveMeTap! yn gyfle i ddefnyddio'r adeiladau a'r seilwaith presennol i gynnig dŵr yfed am ddim heb fod angen gosod a chynnal ffynhonnau dŵr neu dapiau newydd; a

·         chodi ymwybyddiaeth o unrhyw ffynhonnau neu beiriannau cyflenwi dŵr a ddarperir.

Yn y datganiad i'r wasg yn cyd-fynd â'r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr Keep Britain Tidy, Allison Ogden-Newton:

Too many people still find it challenging to fill up on the go, while many more are still embarrassed to ask for tap, worried about the safety of water fountains, or just unwilling to go the extra mile and carry around a reusable bottle. We’ve simply got to get to a situation where topping up in glass or refillable bottle is the norm.

Camau gweithredu yn Llundain

Ar 13 Awst 2018 cyhoeddodd Maer Llundain gynllun drafft newydd yn Llundain. Mae'r cynllun yn galw ar awdurdodau lleol i nodi lleoliadau priodol ar gyfer ffynhonnau dŵr yn ystod y broses gynllunio. Mae'n dweud:

The provision of accessible free drinking water fountains helps improve public health, reduces waste from single-use plastic bottles and supports the circular economy through the use of reusable water bottles. Free drinking water fountains that can refill water bottles as well as be drunk from should be provided in appropriate locations in new or redeveloped public realm.

Nodwyd mewn adroddiad gan y BBC bod y cynlluniau'n rhan o gynllun gwerth £750,000 i leihau gwastraff plastig ac yn rhan o uchelgais y Maer i sicrhau erbyn 2026 na chaiff unrhyw wastraff bioddiraddadwy neu wastraff y gellir ei ailgylchu ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Mae adroddiadau diweddar yn dangos bod y ffynhonnau dwr sydd wedi'u gosod fel rhan o'r cynlluniau hyd yma yn llwyddiannus:

According to the team behind the installations, more than 8,000 litres of water have been dispensed in under a month from two drinking fountains installed at Liverpool Street Station – equal to 16,000 standard bottles of water – while another fountain, installed off Carnaby Street in March, has been used more than 10,000 times a month since tracking began in early June.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 7 Mai 2018, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC,  gynlluniau i weithio gyda City to Sea i ddatblygu cynllun ail-lenwi i Gymru a sicrhau mai hi yw 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y DU. Dywedodd:

 ...bydd gwaith yn dechrau i drefnu bod dŵr yfed ar gael yn fwy hwylus mewn mannau cyhoeddus ledled Cymru.  Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda City to Sea ar ddatblygu ymgyrch ail-lenwi i Gymru, a bydd hefyd yn cydweithio'n agos â chwmnïau dŵr yng Nghymru a chyda'n busnesau, ein helusennau a'n digwyddiadau mawr.  Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ymgyrch i newid ymddygiad er mwyn helpu pobl i weld gwerth dŵr ac i sicrhau mai dŵr tap yw’r dewis cyntaf ar gyfer torri syched.  

Ar 4 Mehefin 2018 yn Ras Fôr Volvo cyhoeddodd y Gweinidog mai llwybr 870 milltir ar hyd arfordir Cymru fyddai'r lleoliad cyntaf i gyflwyno'r cynllun ail-lenwi:

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â threfi, pentrefi a busnesau bwyd a diod i’w hannog i gynnig mannau ail-lenwi.

Bydd y rhai sy’n ymuno â’r ymgyrch hon yn weladwy i gerddwyr drwy sticeri ar ffenestri, a byddant yn ymddangos ar restr mewn ap ail-lenwi dwyieithog.

Bydd yr ap yn dangos lle mae dŵr yfed yn rhad ac am ddim ar gael i’r cyhoedd, gan ei gwneud yn haws i bobl ail-lenwi eu poteli dŵr heb orfod prynu diodydd untro eraill.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad ynghylch y cynllun ail-lenwi yn y Cyfarfod Llawnar 8 Mai 2018, dywedodd David Melding AC:

...am y fenter dŵr yfed a'r fenter Ail-lenwi... mae'r math hwn o gynllun, neu annog pobl i ddefnyddio poteli y gellir eu hailddefnyddio a chael mannau y gallan nhw fynd iddyn nhw o amgylch y dref i'w hail-lenwi, rwy'n credu bod hynny'n ardderchog a bod hynny'n sicr yn rhan o'r ateb.

Mae'r Pwyllgor Deisebau yn ystyried y deisebau a ganlyn ar hyn o bryd, sydd oll sy'n ymwneud â lleihau neu ddileu gwastraff plastig:

P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i lygredd microblastigau yn nyfrffyrdd Cymru.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.